Template:Appeal/Alan/cy
Oddi wrth Alan Sohn, awdur ar Wicipedia
Ar Wicipedia, rydw i wedi creu 2,463 o erthyglau, a phob un ohonynt am ddim.
Ymgynghorydd systemau ydw i, yn gweithio gyda systemau ariannol cyfrifiadurol ar raddfa fawr iawn. Pe bai'r amser dw i wedi treulio ar Wicipedia yn cael ei amnewid yn arian, byddai'n golygu cannoedd o filoedd o ddoleri i mi.
Ond nid arian yw'r ysgogiad fan hyn. Rydych yn delio mewn ffordd wahanol ar Wicipedia. Darperir y wybodaeth gennyf i a miloedd o olygyddion eraill sy'n fwy na pharod i'w ddarparu. Rydym ni gyd yn gwybod fod y byd yn le gwell trwy fod yr wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim.
Wrth gwrs, nid yw'r system sy'n darparu'r wybodaeth yn rhad ac am ddim yn rhad ac am ddim i'w rhedeg, a dyna pham rydym yn gofyn am gyfraniadau unwaith y flwyddyn. Nid oes hybysebion ar Wicipedia, nid oes unrhyw beth yn fflachio, nid oes unrhyw beth ar ochr y dudalen. Nid ydym yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi. Nid yw Wicipedia wedi ei faeddu gan weithrediadau masnachol.
Yr unig beth sydd angen arnom yw eich bod yn ein cefnogi gyda $5, €10, ¥1000 neu beth bynnag y gallwch ei fforddio er mwyn sicrhau fod yr wybodaeth yma dal ar gael i chi.
Mae'r system sy'n cefnogi ein gwaith, ac a weinyddir gan y mudiad di-elw Sefydliad Wicifryngau, mor elfennol ag y medra fod. Efallai fod gan Google yn agos i filiwn o weinyddwyr. Mae gan Yahoo rhyw 13,000 o staff. Mae gennym ni 679 o weinyddwyr a 95 aelod o staff.
Wicipedia yw'r pumed wefan fwyaf prysur ar y we a gwasanaetha 470 miliwn o bobl gwahanol bob mis - gyda biliynau o dudalennau'n cael eu darllen.
Oherwydd natur yr economi, rydym yn cymryd yn ganiataol mai am arian yn unig y mae pobl yn gweithio. Pam arall fyddai rhywun yn mynd i'r gwaith oni bai eu bod yn cael eu talu?
Yn Wicipedia, mae'r awydd i gydweithio a chynyddu gwybodaeth wedi gafael yn nychymyg pobl er mwyn creu adnodd amhrisiadwy. Nid yw diwylliant yn dibynnu ar bwy sy'n medru ei fforddio. Cewch wybodaeth gywir, di-duedd, wedi'i drefnu'n drylwyr, ei nodi'n glir, ei gyfeiriadu'n fanwl, a'i ddiweddaru'n gyson, pa bryd bynnag y mae ei angen arnoch.
Mae hynny'n swnio fel bargen a hanner i mi.
Diolch,
Alan Sohn
Awdur Wicipedia